English Rhoddi

Trosolwg

Mae gan Plant y Cymoedd brosiect Celfyddydau Ieuenctid pwrpasol o’r enw Sparc, sydd â thîm o ymarferwyr celfyddydau ieuenctid a chelfyddyd ddigidol medrus a chymwysa gweithiwn gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau. Gan ddefnyddio technegau creadigol mae’r plant a’r bobl ifanc yn archwilio gwahanol feysydd yn eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol.

Mae tîm Sparc yn rhan gynhenid o’r gwaith datblygu cymunedol yn Plant y Cymoedd.

Celfyddydau Ieuenctid

Prosiect Celfyddydau Ieuenctid Pwrpasol Plant y Cymoedd

Sparc

Mae plant a phobl ifanc yn archwilio gwahanol feysydd o’u bywydau a bywydau pobl eraill mewn modd cadarnhaol drwy weithgareddau creadigol.

Sparc

Sut rydyn ni'n helpu

Mae Sparc yn bartneriaeth rhwng gweithwyr celf ieuenctid proffesiynol a phobl ifanc. Gyda'i gilydd maent yn ymgysylltu ac yn ysbrydoli naill a’r llall a’r rhai o’n cwmpas i fod yn greadigol, cydweithio a chael hwyl. Mae nhw’n cynhwysol ac uchelgeisiol ar yr un pryd ac yn gweithio mewn amgylchedd o ymddiriedaeth a pharch.

Mae Sparc yn cael ei redeg yn bennaf gan weithwyr celf ieuenctid a hyfforddwyd yn broffesiynol ac a ddaeth i weithdai drama a theatr ieuenctid eu hunain pan oedden nhw’n blant, neu oedd yn dod o’r ardal ac y gwirfoddoli. Maen nhw’n deall o’r tu mewn y gwahaniaeth y gall y celfyddydau ei wneud o ran newid bywydau, ac maen nhw wedi dychwelyd i drosglwyddo’u profiad, gwybodaeth ac arbenigedd. Mae’r gweithwyr celf ieuenctid yn deall y rhwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu wrth gael mynediad i’r celfyddydau ac maen nhw bob amser wrth law i gynnig cymorth pan fydd angen ac i annog pobl i gymryd rhan mewn ffordd sy’n gymorth iddyn nhw.

Mae pob gweithdy Sparc am ddim er mwyn sicrhau na fydd cost byth yn rhwystr i neb.

 

I ddarganfod mwy am Sparc, ewch i’r wefan https://sparc.wales/cy/hafan

Tîm Sparc

Y Pobl

Miranda Ballin – Cyfarwyddwr Artistig Sparc
Ebost: Miranda@ValleysKids.biz

Gemma Fraser-Jones – Dirprwy Gyfarwyddwr Sparc
Ebost: Gemma@ValleysKids.biz

Claire Hathaway – Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid
Ebost: Claire@ValleysKids.biz

Kiara Sullivan – Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid
Ebost: Kiara@ValleysKids.biz

Guy Evans – Gweithiwr Ieuenctid Celfyddydau Digidol
Ebost: Guy@ValleysKids.biz

Lle i ffindio ni

Y Ffatri
Stryd Jenkin
Porth
CF39 9PP

Ffon: 01443 303032

 

Cymerwch rhan

Os ydych yn berson ifanc rhwng 7 a 25 oed â diddordeb mewn drama, cerddoriaeth, dawns, fideo neu unrhyw gelfyddyd arall, byddwn yn falch o glywed gennych. Os ydych yn oedolyn ac am wirfoddoli yna cysylltwch â ni. Nid oes ots nad ydych wedi ymwneud â’r celfyddydau o’r blaen, yr unig beth sydd ei angen yw bod yn barod i ymuno a chymryd rhan.

Gweler ein hamserlen i weld lle gallwch ymuno â’r hwyl.

Cysylltwch

Ydy hyn o ddiddordeb i chi?

Ewch i'r wefan
Celfyddydau Ieuenctid
Exit