English Rhoddi

Mae hi’n Noswyl Nadolig ond mae rhywbeth o’i le yn y goedwig. Mae coed pinwydd yn troi’n goed Losin. Mae’r afon yn gorlifo gyda thriog. Gwaith Sioned Siocled yw’r cyfan sy’n troi bob dim yn losin!

Dim ond Hansel a Gretel sy’n sefyll yn ei ffordd. Ânt ymaith ar antur anhygoel i achub y goedwig. Ar eu taith byddant yn cyfarfod ffrindiau newydd hudol megis Spencer y Wiwer a Trefor y Goeden. Byddant hefyd yn dysgu mai holi am gymorth yw’r peth dewraf y gall unrhywun ei wneud.

Yn llawn caneuon a chwerthin, mae’r fersiwn newydd yma o Hansel a Gretel yn stori y mae pawb yn ei garu gyda thro ychwanegol blasus a chwareus. Mae ein sioe Nadolig hudolus wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y rheiny rhwng 3-6 oed yn cynnig rhyfeddod, cyfaredd a llawer iawn o hwyl.

Gan Katie Elin-Salt
Cyfieithiad Cymraeg gan Branwen Davies

Pris y tocynnau yw £5 oedolyn a £2 gonsesiwn (plant, myfyrwyr mewn addysg ran-amser neu amser llawn, pobl dros 60 oed, pobl sydd wedi’u cofrestru’n anabl a phobl nad ydynt mewn cyflogaeth).

I archebu tocynnau, e-bostiwch kiara@valleyskids.biz neu ffoniwch 01443 303032

 

Exit