English Rhoddi

Ein pwrpas yw gweithredu’n llwyddiannus fel elusen datblygu cymunedol seiliedig ar le sy’n cynnig cymorth, cyngor a chyfleoedd hanfodol i bobl o bob oed yn Rhondda Cynon Taf.

Yn anad dim, rydym yn ymgysylltu â’r rhai sy’n profi tlodi, ynysu cymdeithasol neu allgáu, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol gwael. O fewn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, mae Plant y Cymoedd wedi datblygu ystod eang o raglenni a chymorth sy’n darparu cyfleoedd a gobaith i’r rhai sydd â’r angen mwyaf, gan helpu i fynd i’r afael â chylchoedd amddifadedd sydd wedi’u gwreiddio. Mae ein dulliau gweithio seiliedig ar le yn golygu mai ni yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor, eiriolaeth a chymorth materol a ddefnyddir gan gannoedd o bobl bob wythnos.

Ein gweledigaeth yw y dylai pob unigolyn drwy gydol ei fywyd ac ni waeth beth fo’u hamgylchiadau gael cyfleoedd i deimlo’n ddiogel a hapus, i wneud penderfyniadau gwybodus, i gyflawni eu potensial, ac i gyfrannu at eu cymunedau ac i gymdeithas.

Ein cenhadaeth yw bod yno ar gyfer yr holl bobl yn ein cymunedau pan fydd angen cymorth arnynt fwyaf i wella eu bywydau, archwilio llwybrau newydd, cyfarfod ag eraill a mwynhau eu hunain.

Mae ein gwaith wedi’i seilio ar y weledigaeth a’r genhadaeth hon. Gyda’i gilydd, maent yn darparu’r sylfaen sydd ei hangen ar gyfer archwilio sut y gall unigolion a chymunedau wireddu eu huchelgeisiau a thyfu mewn hyder trwy gyfranogiad, creadigrwydd a gweithredu ar y cyd.

Rydym yn arbennig o falch o’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl o bob oed ac yn cefnogi cymunedau i weithredu ystod eang o weithgareddau ar draws sawl maes bywyd. Mae hyn yn cynnwys datblygiad cymunedol, chwarae, addysg, iechyd, lles corfforol a meddyliol, y celfyddydau, bywyd teuluol, perthnasoedd â chyfoedion, cyflogaeth, sgiliau, a thai. Mae Plant y Cymoedd yn credu bod gan bawb botensial ac yn gweld ei rôl fwyaf arwyddocaol fel galluogi pobl i ddod o hyd i bwrpas, credu ynddynt eu hunain, ac ysbrydoli eraill. 

Rydym yn cydweithio â phobl o amgylcheddau sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol ond sy’n gyfoethog mewn diwylliant gwerin, weithiau heb lais na dewisiadau. Gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, mae ein staff a’n gwirfoddolwyr rhagorol yn gweithio’n agos ac yn ofalus gyda phobl fel mai’r preswylwyr a’r cyfranogwyr sy’n chwarae rhan arweiniol wrth gyd-ddatblygu’r rhaglenni a’r prosiectau rydym yn eu cyflawni. 

Mae Plant y Cymoedd yn unigryw o ran hyd, dyfnder ac ehangder ei brofiad ym maes datblygu cymunedol seiliedig ar leoedd yn Rhondda Cynon Taf. Yr hyn sy’n gwneud y gweithgarwch hwn mor arbennig yw sut y gall plentyn, person ifanc neu oedolyn (waeth beth fo’u cefndir, profiad neu fodd ariannol) gael mynediad i ofod diogel sy’n caniatáu iddynt weld byd na ddychmygir fel arall. 

Rydym yn ceisio gwelliannau mewn amgylchiadau cymdeithasol-economaidd, amgylcheddol a diwylliannol drwy ddod â phobl ynghyd i ddatrys heriau cyfunol; gwneud y mwyaf o effaith gweithredwyr cymunedol allweddol; datblygu strategaethau ac atebion trwy ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi’u seilio ar ymgysylltu a chyfranogiad, cyfiawnder cymdeithasol, tegwch a chynaliadwyedd.

Er mwyn cyflawni ein nodau, bydd Plant y Cymoedd yn parhau i wneud y canlynol:

  • Ymrwymo i ddarpariaeth am ddim yn y man cyflwyno, gan sicrhau mynediad teg.  
  • Grymuso cymunedau lleol i lunio sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu ac i fynd ar drywydd cyfleoedd i gynyddu’r adnoddau sydd ar gael iddynt. 
  • Annog pobl i osod cyfeiriad ein gwaith, sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion, eu gobeithion a’u dyheadau, trwy gyfathrebu, ymgynghori a gwerthuso effeithiol. 
  • Gweithio’n gynhwysol mewn ffyrdd anfeirniadol ac mewn amgylcheddau diogel y gellir ymddiried ynddynt, gan sicrhau mynediad i ddemograffeg heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Ymgysylltu’n ehangach â phobl ddifreintiedig ac ymylol, pobl â nodweddion gwarchodedig, a chymunedau ag ystod amrywiol o raglenni a gweithgareddau, gan ehangu eu profiad a’u gwerthfawrogiad. 
  • Galluogi pobl sydd â bywydau cymhleth i ddatblygu hyder wrth ddefnyddio eu llais, gan eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol ac i gysylltu â’r byd ehangach. 
  • Meithrin talent a datblygu llwybrau gyrfa gyda ac ar gyfer pobl ifanc ac oedolion, gan eu cefnogi i gael mynediad at fentora gan weithwyr proffesiynol, cynyddu eu sgiliau ac ennill cymwysterau. 
  • Hyrwyddo a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau drwy ddatblygu profiadau dwyieithog o ansawdd uchel mewn amgylchedd diogel, cynhwysol a chadarnhaol;
  • Annog pobl i ystyried eu hunain fel dinasyddion byd-eang a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd tra hefyd yn sicrhau bod yr holl raglenni’n cael eu cyflwyno mewn modd cynaliadwy. 
  • Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â mudiadau yn lleol, yn y DU ac yn rhyngwladol gan alluogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd o ansawdd uchel sy’n ysbrydoli ac yn gwella bywyd, gan ehangu eu gorwelion. 
  • Ymgysylltu gyda, ac arwain, sefydliadau perthnasol lleol a chenedlaethol yng Nghymru i ddatblygu arfer gorau yn y fethodoleg a ddefnyddiwn. 
  • Trawsnewid ac esblygu trefniadau llywodraethu, strwythur, gweithrediadau ac ymgysylltu yn barhaus mewn ymateb i anghenion a chyfleoedd cyfoes sy’n effeithio ar bobl a chymunedau’r cymoedd.
Exit