English Rhoddi

Trosolwg

Mae SOAR yn lleoliad godidog sydd â rhaglen brysur o weithgareddau i bobl o bob oed. Mae gan SOAR opsiynau llogi ystafelloedd sy'n addas ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a digwyddiadau.

Mae Hyb Cymunedol a Theuluol Pen-y-graig yn cael ei redeg gan Debra Jones sydd wedi gweithio yn y gymuned ers blynyddoedd lawer yn darparu cefnogaeth, ysbrydoliaeth ac anogaeth i bobl sy’n ymweld â’r ganolfan.

Cynhelir ein rhaglen o weithgareddau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae’n agored i bawb. Yn ystod yr wythnos rydym yn darparu pob math o weithgareddau a chyfleoedd i bobl o bob oed: plant yn dod i glybiau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid; teuluoedd yn mynychu sesiynau lles a phobl hŷn yn mynychu dosbarthiadau celf. I blant a phobl ifanc sy’n mynychu ein sesiynau chwarae ac ieuenctid ar ôl ysgol, rydym yn darparu byrbrydau yn ogystal â chyfle i ymlacio, cymdeithasu a datblygu diddordebau a sgiliau newydd.

I gael manylion am yr hyn sydd ymlaen yn SOAR bob wythnos, gweler yr amserlen isod.

Amserlen Penygraig

Llun

9yb
Bwyd - rhydd ac am ddim
4yp - 5yp
Dawnsio 'Jiggers'
5-7 oed
4yp - 5.30yp
Clwb Chwarae
5-10 oed
5yp - 6yp
Dawnsio 'Groovers'
8 - 12 oed
6yn - 8yn
Clwb Ieuenctid
12+ oed

Mawrth

9yb
Bwyd - rhad ac am ddim
9.30yb - 11.30yb
Clwb Lles
Oedolion
4yp - 5.30yp
Clwb Chwarae
5-10 oed
6yn - 7.30yn
Clwb Canol
10 - 12 oed

Mercher

9yb
Bwyd - rhad ac am ddim
10yb - 12yp
Clwb Celf
Oedolion
1yp
Bingo gyda wobrau
Oedolion

Iau

4.30yp - 5.45yp
Gweithdy Drama
8+ oed
6yn - 8yn
Clwb Drama Pobl Ifanc
12+ oed

Gwener

9yb
Bwyd - rhad ac am ddim
10-12
Aros a Chwarae
Plant bach - cyn oedran ysgol

Sadwrn

Sul

Cysylltiwch

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Hyb Cymunedol a Theulu Penygraig?

Cysylltwch â ni ar y wybodaeth uchod.

Hyb Cymunedol a Theuluol Penygraig

Ffindiwch ni:

Canolfan Soar
Stryd Tylacelyn
Penygraig
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 1JZ

Cydlynydd: Debra Jones – debra@valleyskids.biz

If you would like to make a booking please contact:

Ffôn: 01443 420870

Hyb Cymunedol a Theuluol Penygraig

Llogi ystafell

Eisiau llogi ystafell?

Eisiau llogi lle ym Mhenygraig?

Llogi ystafell

DARGANFOD

Darganfod mwy am Plant y Cymoedd

Exit