English Rhoddi

Trosolwg

Dinas yw ein hyb lleiaf, ond mae’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy’n apelio at bob grŵp oedran yn y gymuned leol, yn amrywio o glybiau cyn ysgol, darpariaeth ieuenctid, dosbarthiadau drama a diwrnodau hwyl cymunedol. Rydym hefyd yn darparu gofod a chyfle i ymlacio gyda ffrindiau neu ddysgu sgiliau newydd.

Mae cydlynydd Hyb Cymunedol a Theuluol Dinas, Roger Wilcox, yn gweithio’n agos gyda’i dîm, Kattie, Leah a Susan i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o sesiynau chwarae ac ieuenctid atyniadol a grymusol a darparu digonedd o gyfleoedd gwirfoddoli i warcheidwaid, rhieni, mam-guod a thad-cuod i wneud cyfraniadau cadarnhaol yn eu cymuned. Fel gyda’n holl ganolfannau, mae ein staff yn aelodau o’r gymuned y gellir ymddiried ynddynt ac yn darparu cefnogaeth ac anogaeth pryd bynnag y bo angen.

Cynhelir ein rhaglen o weithgareddau yn yr hyb ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau ac mae am ddim ar y pwynt mynediad.

I gael manylion am yr hyn sydd ymlaen yn Hyb Dinas bob wythnos, cymerwch olwg ar yr amserlen isod

"

Mae’r man hwn yn bwysig iawn, nid yn unig i mi, ond i bawb. Mae’n rhoi cyfleoedd i ni allu siarad â phobl, yn enwedig i bobl sy’n dioddef o orbryder, iselder neu anableddau. Mae'n ein cadw ni'n gall ac rydym yn gadael yn teimlo'n gyflawn ac yn gynnes”

Aelod o'r Grŵp Ieuenctid

Amserlen Dinas

Llun

4:00pm - 5:30pm
Sesiwn ar ôl Ysgol (5-10 oed)
Plant
6:00pm - 8:00pm
Sesiwn Ieuenctid Iau (11-13 oed)
Pobl Ifanc

Mawrth

10:00am - 12:00pm
Sesiwn Cyn Ysgol
Plant
4:00pm - 5:30pm
Sesiwn ddrama (10-13 oed)
Pobl Ifanc
6:30pm - 8:00pm
Sesiwn Ieuenctid Iau (11-13 oed)
Pobl Ifanc

Mercher

4:00Opm - 5:00pm
Sesiwn ddrama (10-13 oed)
Pobl Ifanc
6:00pm - 8:00pm
Sesiwn Ieuenctid Hŷn (13+ oed)
Plant

Iau

5:30pm - 6:30pm
Cymorth bugeilio 1 i 1 13+
Pobl Ifanc
6:00pm - 8:00pm
Sesiwn Ieuenctid Hŷn (13+ oed)
Pobl Ifanc

Gwener

Sadwrn

Sul

Cysylltu

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Hyb Cymunedol a Theuluol Dinas?

Cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

01443 430653
Hyb Cymunedol a Theuluol Dinas
Exit