English Rhoddi

Trosolwg

Yn ogystal â bod yn gartref i raglen celfyddydau ieuenctid Plant y Cymoedd, Sparc, yr Artist Preswyl Anne Evans ac oriel Celf yn yr Atig, mae'r Ffatri hefyd yn darparu stiwdios ar gyfer ymarferwyr celf lleol a chwmnïau celfyddydol ac mae ganddi ofod perfformio ac oriel sy’n cynnwys amserlen brysur o artistiaid lleol a chenedlaethol.

"

Mae’r Ffatri wedi rhoi sylfaen i mi weithio a datblygu fel artist ac mae wedi bod yn gefnogaeth anhygoel i mi yn ystod cyfnodau da a drwg bywyd.”

Dawn Hoban

Agorwyd Y Ffatri gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ym mis Gorffennaf 2011, ac mae'r Ffatri wedi cynnal cyngherddau, gigs, nosweithiau comedi, perfformiadau theatr, nosweithiau gwobrwyo a mwy, gan ddarparu mynediad i gelfyddydau creadigol o safon uchel yng Nghwm Rhondda.

Mae’r Ffatri yn ofod creadigol unigryw, sy’n cael ei redeg ar hyn o bryd gan ein Artist Preswyl, Anne Culverhouse-Evans. Mae’r adeilad deinamig yn cynnal amrywiaeth o weithdai, digwyddiadau ac arddangosfeydd. Gyda lleoliad, oriel a sawl stiwdio, mae’r Ffatri yn ofod bywiog a chreadigol.

Mae oriel Celf yn yr Atig yn ofod hardd sy’n aml yn cynnal arddangosfeydd gweledigaethol godidog gan artistiaid lleol a chenedlaethol.

Mae’n gartref i SPARC, ein tîm perfformiad ieuenctid. Darllenwch fwy am Sparc gan clicio ar y botwm isod.

Yn yr islawr, mae’r creadigrwydd yn parhau gyda gofod a ddefnyddir gan y seramegydd Dawn Hoban a Beccie Ford sy’n cynnal gweithdai rheolaidd. Mae hefyd yn gartref i Sied Dynion a Merched. Mae hefyd yn gartref i ofodau celf desg boeth ar gyfer artistiaid lleol a thenantiaid eraill.

SPARC

Ffindiwch ni:

The Factory

Welsh Hills Works

Jenkin Street

Porth

CF39 9PP

If you would like to make a booking please contact:

Ffôn: 01443 687080

cyswllt

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Y Ffatri?

01443 687080
Y Ffatri
Y Ffatri

Llogi ystafell

Eisiau archebu lle yn Y Ffatri?

Learn more

archwilio

Dysgwch fwy am Valleys Kids

Exit