English Rhoddi

Trosolwg

Gan ddefnyddio datblygiad cymunedol, chwarae, gwaith ieuenctid a methodoleg wedi’i llywio gan drawma yn ogystal â methodoleg gelfyddydol benodol ac eang, nod Plant y Cymoedd yw hwyluso a galluogi newid cadarnhaol yn y cymunedau rhithwir a’r cymunedau diriaethol lle rydym wedi’n gwreiddio ac yr ydym yn eu cefnogi.

Mae’r fethodoleg hon yn seiliedig ar werthoedd dynol cyfiawnder cymdeithasol, tegwch a chynaliadwyedd (cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol).

Dylid cadw mewn cof mai “proses nid digwyddiad” yw’r fethodoleg hon a bod y prosesau hyn yn ceisio mynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldeb a chamweithrediad systemig hanesyddol gan geisio trawsnewid cynaliadwy. Yn seiliedig ar ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd; gan ddechrau gyda’r unigolyn a’r hyn sy’n berthnasol ac yn bwysig iddyn nhw a’u cymuned.

O ganlyniad i’r gwerthoedd a’r fethodoleg hyn rydym: yn meithrin perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt; yn bresennol; yn gofalu; yn parchu; yn gwrando ac yn clywed; ac yn cefnogi.

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Blant y Cymoedd

Exit