English Rhoddi

trosolwg

Mae gan Hyb Cymunedol a Theuluol yn Rhydyfelin raglen brysur o weithgareddau i bobl o bob oed o frecwast cyn-filwyr i nosweithiau sinema, perfformiadau pantomeim i aros a chwarae. P'un a ydych am gael sgwrs a phaned, cymryd rhan mewn theatr ieuenctid neu awydd noson o bingo, mae'r cwbl ar gael yn Rhydyfelin.

Mae ein canolfan yn Rhydyfelin yn cael ei rheoli gan Erika Taylor sydd wedi gweithio yn y gymuned ers blynyddoedd lawer. Cefnogir Erika gan ei gweithiwr cymorth anhygoel, Joe Williams, a’u gwirfoddolwyr ymroddedig.

Cynhelir ein rhaglen o weithgareddau o ddydd Llun i ddydd Gwener ac mae’n agored i bawb. Yn ystod yr wythnos rydym yn darparu pob math o weithgareddau a chyfleoedd i bobl o bob oed. Rhwng y gweithgareddau, mae croeso i aelodau’r gymuned alw heibio am baned a sgwrs gyda’n staff.

Mae gan ein canolfan yn Rhydyfelin ddau le ar gael i’w llogi: y brif neuadd a’r caffi. (cliciwch yma am opsiynau llogi lleoliad).

I gael manylion am yr hyn sydd ymlaen yn Hyb Rhydyfelin bob wythnos, cymerwch olwg ar yr amserlen isod.

Amserlen Rhydyfelin

Llun

12.30pm-2.30pm
Grŵp Cefnogi
6pm-7.30pm
Theatr Ieuenctid (Sparc)

Mawrth

9.30am-11.30am
Clwb Coffi Rhydyfelin
10am
Grŵp Cerdded
1pm-2pm
Tylino babi
1pm-4pm
Cyngor ar Bopeth
7pm-9pm
Bingo

Mercher

1pm – 4pm
Cyngor ar Bopeth
(trwy apwyntiad yn unig)
4.30pm – 6pm
Drama Iau (Sparc)
6pm-7.30pm
Drama Iau (Sparc)

Iau

10am-11.30am
Rhieni a Phlant Bach
1pm-2pm
Cerddoriaeth a Symud
5.30pm-7.30pm
Grŵp Dynion
6pm-8pm
Taekwando

Gwener

10.30am-12.30pm
Byw gyda Dementia
1.30pm-3.30pm
Caban Cawl (dydd Gwener cyntaf y mis)
2pm-4pm
Cyfeillion Dydd Gwener

Sadwrn

Sul

2pm-4.30pm
Yr Eglwys Obaith
"

Da iawn bois, dydych chi byth yn methu â chael y gymuned at ei gilydd. Does gennych chi ddim syniad faint rydych chi'n helpu rhai aelodau o'r gymuned. Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud

Sut i ddod o hyd i ni

Canolfan Cymunedol Rhydyfelin
Heol y Dyffryn
Rhydyfelin
CF37 5RW

Ffôn: 01443 808840 a 01443 808850

Cydlynydd: Erika Taylor – erika@valleyskids.biz

Gweithiwr chwarae: Joe Williams – joe@valleyskids.biz

Cysylltwch
Hyb Cymunedol a Theuluol Rhydyfelin

Llogi ystafell

Oes angen llogi ystafell yn Rhydyfelin?  Ffeindiwch allan mwy yma!

Dysgu mwy

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Valleys Kids

Exit