English Rhoddi

Eglurodd y gweithiwr prosiect Joe Williams:

“Ar gyfer ein sesiynau chwarae dros yr haf, fe benderfynon ni mai ‘Cymru a’r Byd’ fyddai un o themâu’r wythnos.

Llwyddom i ddod o hyd i restr gynhwysfawr o gyfeiriadau e-bost ar gyfer pob Llysgenhadaeth, a Chenhadaeth yn y DU, sef ymhell dros 150.

O hyn, fe anfonon ni e-bost at bob un yn egluro pwy oedden ni, ac am gynllun chwarae’r haf. Gofynnon ni hefyd a fydden nhw’n ddigon caredig i anfon un eitem o’u Llysgenhadaeth atom ni, boed yn beiro, llyfryn, sticer, neu faner fach. Byddwn wedyn yn defnyddio hyn yn ein cynllun chwarae i helpu i ddysgu plant am y byd.

Daeth ac aeth Awst 2023 ac ni chlywsom unrhyw beth yn ôl gan unrhyw un o’r gwledydd y cysylltwyd â nhw. Yna, mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Hydref, fe ddechreuon ni dderbyn parseli.

Derbyniwyd ymhell dros 25 o barseli i gyd – o lefydd fel Mauritious, yr Almaen, Palau, Malaysia, Gwlad Thai, Yemen, Liberia, Palestina, a bron i 100 o eitemau unigol o’r Undeb Ewropeaidd!

Pan ddaeth y diwrnod, fe benderfynon ni arddangos popeth, gyda phob plentyn yn gallu dewis eitem o’r detholiad. Derbynodd pob plentyn hefyd bag anrheg gyda llyfrau lliwio/gweithgaredd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Dilynwyd hyn gan gwis rhyngwladol, gyda phob enillydd yn gallu dewis eitem o’r blwch dirgel a oedd yn cynnwys nwyddau fel bagiau tote o’r Almaen, nwyddau moethus Elephant Thai, a llyfrau nodiadau/sticeri o Trinidad!”

Am brosiect hynod ddyfeisgar ac ymateb rhyfeddol gan Lysgenadaethau a Chenhadaethau ledled y byd. Hoffem anfon diolch o galon i bob unigolyn a gymerodd yr amser i bacio ac anfon bocs o anrhegion atom. Cafodd y plant hwyl, gan brofi Cymru a’r Byd!

Exit