English Rhoddi

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw creu cymuned lle mae pob person a theulu yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu galluogi a'u grymuso i oresgyn caledi a gwireddu eu potensial.

Rydym yn cefnogi ac yn cryfhau unigolion, teuluoedd a chymunedau trwy amrywiaeth o weithgareddau, rhaglenni a mentrau cymdeithasol. Bydd pobl yn adnabod ac yn defnyddio ein gwasanaethau eang am wahanol resymau, ond bydd un peth bob amser yn parhau i fod yn wir: rydym yn darparu amgylcheddau diogel, anfeirniadol a grymusol i bobl o bob oed wella eu hyder ac ansawdd eu bywyd.

Gweledigaeth a Chenhadaeth

Oherwydd mae pawb yn haeddu:

  • Drws agored, pan fydd y lleill i gyd ar gau
  • Man diogel i fod yn nhw eu hunain
  • Cyfle i gyrraedd eu llawn botensial
  • Yr offer i ddod yn annibynnol
  • Cymuned y gallant ddibynnu arni

Ein hamcan yw ailsefydlu ymdeimlad o berthyn, gobaith a chymhelliant ym mywydau’r rhai sy’n wynebu amgylchiadau anodd a rhwystrau i gefnogaeth. Byddwn yn cyflawni hyn drwy drin pawb ag urddas a pharch, darparu cymorth proffesiynol a chynhyrchiol, cydweithio â mudiadau o’r un anian, lledaenu llawenydd a phositifrwydd ym mhob elfen ar ein gwaith a pharhau i wrando, dysgu ac addasu.

Gweledigaeth a Chenhadaeth

Ein gwerthoedd

Dysgwch fwy am yr hyn yr ydym yn credu ynddo.

Gwerthoedd

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Blant y Cymoedd

Exit