Yr Hen Lyfrgell
Mae’r Hen Lyfrgell yn un o’n mentrau cymdeithasol ym Mhen-y-graig. Mae'n ofod amlbwrpas gyda siop elusen, caffi a chyfnewidfa lyfrau.
Mae’r Hen Lyfrgell ym Mhenygraig yn ofod unigryw sy’n denu amrywiaeth o gwsmeriaid. Mae bwydlen y caffi yn bris rhesymol iawn ac felly hefyd bopeth sy’n cael ei werthu yn y siop elusen. Mae gan y siop elusen ddewis hyfryd o ddillad, nwyddau cartref, gemau a llawer mwy! Mae’n ofod clyd gydag awyrgylch hyfryd. Mae nifer o grwpiau a gweithgareddau megis bore coffi, grŵp cyfeillgarwch a gweu a chlonc yn digwydd trwy gydol yr wythnos. Mae yna le awyr agored gyda gardd fechan sy’n boblogaidd yn ystod misoedd yr haf.
Rhoddion i’n Siop ElusenMae yna le awyr agored gyda gardd fechan sy’n boblogaidd yn ystod misoedd yr haf.
Dyma ein bwydlen gyfredol, sydd ar gael i’w bwyta yn y caffi neu i’w gymryd i ffwrdd
Yn fwyaf diweddar, mae’r Hen Lyfrgell wedi bod yn Fan Cynnes Diogel yn ystod y gaeaf, gan gynnig cawl a diod boeth i unrhyw un sy’n mynychu.
Beth am alw draw i weld beth sydd gan yr Hen Lyfrgell i’w gynnig?
Gweler isod am ein hamserlen o weithgareddau ac oriau agor
Cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
01443 808821Ffindiwch ni
Yr Hen Lyfrgell
Tylacelyn Road
Penygraig
CF40 1LA
Oriau agor:
Llun – Gwener 9yb – 2yp
Ffôn: 01443 808821