English Rhoddi

Gweithgareddau

Bryn Gwyn Bach yw canolfan breswyl hygyrch ac ecogyfeillgar Plant y Cymoedd yn agos at Reynoldston ar Benrhyn Gŵyr.

Mae Bryn Gwyn Bach yn swatio mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) a’r ardal gydnabyddedig gyntaf o harddwch naturiol eithriadol yn y DU.

Mae’r ganolfan wedi’i hamgylchynu gan gaeau hardd, coed, pyllau a dyfrffyrdd, a Chomin Gŵyr, ac mae’n gartref i lawer o wahanol rywogaethau o fywyd gwyllt.

Lleoliad delfrydol ar gyfer heicio, beicio, gweithgareddau awyr agored neu ymlacio i ffwrdd o fwrlwm bywyd bob dydd prysur.

Y tu allan, mae pwll tân, seddi a ffwrn pitsa tân coed.

O’r ganolfan, gallwch gael mynediad hawdd i lwybr troed a cherdded i Gefn Bryn, cartref Carreg Arthur chwedlonol, un o henebion cynhanesyddol enwocaf Cymru.

Mae Gŵyr yn cynnal un o ddim ond pedwar digwyddiad Awyr Dywyll Mannau Gwyrdd yng Nghymru ac mae awyr serennog y nos ym Mryn Gwyn bach yn syfrdanol.

Mae Bryn Gwyn bach o fewn pum milltir i brydferthwch Bae Oxwich ac o fewn wyth milltir i Ben Pyrod yn Rhosili. Ar gyfer y rhai mwy anturus, gellir mynd i syrffio yn Caswell, Langland neu Langynydd.

"

"Lleoliad hardd ac amgylchoedd a alluogodd ni fel grŵp i fwynhau cwmni ein gilydd i eistedd, siarad, rhannu straeon a pharatoi prydau gyda'n gilydd. Yn agos i draethau, roedd yn lleoliad gwych i gael ei leoli i allu crwydro'r ardal."

Cyfleusterau

Cysgu

  • Naw ystafell wely en suite
  • Lle i 18-22 gysgu
  • Pedwar gwely dwbl ac 14 gwely sengl

Gweithgareddau

  • Neuadd weithgareddau fawr gyda chegin ar wahân
  • Teithiau cerdded ar hyd yr arfordir
  • Gwersylla
  • Cyfeiriannu
  • Reidio beic

Awyr Agored

  • Digonedd a le awyr agored
  • Popty pitsa tân coed awyr agored
  • Cyfleusterau chwarae antur
  • Gwersylla awyr agored ar gael

Cyfleusterau

  • Cornel glyd gyda lle tân
  • Cegin/ystafell fwyta fawr gyda llosgydd tân
  • Cawodydd, toiledau, golchwyr a sychwyr mewn adeilad hunangynhwysol
  • Maes parcio mawr

Yr Ardal Leol

Mae pentref glan môr hardd Port Einon hefyd o fewn pum milltir i Fryn Gwyn Bach ac mae yna faes parcio, siopau, cawod ar y traeth a thoiledau. Mae gan Bort Eynon Faner Las a Gwobr Glan Môr ac mae achubwr bywydau ar ddyletswydd o fis Mai i fis Medi.

 

Sesiynau preswyl

Sesiynau preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc

Daw’r profiadau cofiadwy a geir yn Bryn Gwyn Bach â manteision enfawr i’n pobl ifanc drwy eu helpu i ddatblygu eu hunan-barch, hyder a sgiliau cyfathrebu. Fel y dywedodd un o’n Gweithwyr Ieuenctid:

"

"Gallwch chi wneud gwaith ieuenctid mwy effeithiol mewn un penwythnos ym Mryn Gwyn Bach, nag mewn chwe mis cyfan yn y clwb ieuenctid"

Mae hefyd yn cynnig lle am seibiant i deuluoedd na fyddent byth yn cael y cyfle i gael gwyliau.

Mae grwpiau o brosiectau Plant y Cymoedd yn ymweld â Bryn Gwyn Bach trwy gydol y flwyddyn ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gan gynnwys teithiau cerdded arfordirol, gwersylla, cyfeiriannu, teithiau beic, sesiynau adeiladu tîm a sesiynau crefftau gwyllt. Maent hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau preswyl celfyddydau a lles, yn dysgu am yr ecoleg leol ac yn cymryd rhan mewn helpu i ddatblygu a gwella’r 6 erw o dir o amgylch y bwthyn.

"

"Roedd popeth yno oedd ei angen, roedd yr adeilad yn ffres a chroesawgar. Braf iawn oedd gweld yr ymdrechion bach ychwanegol, fel y soffa a'r ardal ddarllen yn y fynedfa ac ychwanegu cloch i'n rhybuddio am bobl yn cyrraedd. Da iawn chi, tîm LBG."

Prisiau

Llogi’r ganolfan gyfan:

Bryn Gwyn Bach: Canolfan Breswyl

Cyfnodau tawel

Elusennau, ysgolion, grwpiau cymunedol: £30 y pen y noson, gyda thâl isafswm o £450 am un noson neu £850 am ddwy noson*.

Llogi preifat (busnesau ac unigolion): £45 y pen y noson, gyda thâl isafswm o £630 am un noson neu £1,100 am ddwy noson*.

*Amser cyrraedd 3yp.  Amser gadael 11yb. Gellir trefnu i gyrraedd yn gynharach neu aros yn hwyrach am ffi ychwanegol.

Llogi preifat am 7 noson: £45 y pen y noson, gyda thâl isafswm o £3,850

Digwyddiadau arbennig (partïon priodas, partïon, cynadleddau, diwrnodau cwrdd i ffwrdd tîm) – cysylltwch am ragor o wybodaeth / prisiau.

Bryn Gwyn Bach: Canolfan Breswyl

Cyfnodau prysur brig (Gorffennaf, Awst, y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd)

Elusennau, ysgolion, grwpiau cymunedol: £40 y pen y noson, gyda thâl isafswm o £550 am un noson neu £1,000 am ddwy noson*.

Llogi preifat (busnesau ac unigolion): £60 y pen y noson, gyda thâl isafswm o £750 am un noson neu £1,300 am ddwy noson*.

*Amser cyrraedd 3yp.  Amser gadael 11yb. Gellir trefnu i gyrraedd yn gynharach neu aros yn hwyrach am ffi ychwanegol.

Llogi preifat am 7 noson: £60 y pen y noson, gyda thâl isafswm o £4,550

Digwyddiadau arbennig (partïon priodas, partïon, cynadleddau, diwrnodau cwrdd i ffwrdd tîm) – cysylltwch am ragor o wybodaeth / prisiau.

 

Bryn Gwyn Bach: Canolfan Breswyl

Cyfradd dydd – llogi’r neuadd a’r gegin yn unig:

Elusennau, ysgolion, grwpiau cymunedol: £40 yr awr neu £300 y diwrnod (cyfradd elusen)
Llogi preifat (busnesau ac unigolion): £60 yr awr neu £450 y diwrnod (cyfradd preifat/busnes)

I fwcio

Eisiau bwcio Bryn Gwyn Bach?

Cysylltwch â littlebryngwyn@valleyskids.biz neu ffoniwch: Ffôn: 01443 420870 Symudol: 07729102100

Bryn Gwyn Bach: Canolfan Breswyl

Ffindiwch ni:

Bryn Gwyn Bach
Cilibion
Y Gŵyr
Abertawe
SA3 1BG

If you would like to make a booking please contact:

Bryn Gwyn Bach - littlebryngwyn@valleyskids.biz

Ffôn: 01443 420870 neu 07729102100

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Valleys Kids

Exit