Dydd Sadwrn 5ed Ebrill: Diwrnod Agored ym Mhrosiect Penyrenglyn
Ydych chi erioed wedi ffansïo rhoi cynnig ar archwilio eich creadigrwydd? Dewch draw i Benyrenglyn ddydd Sadwrn 5ed Ebrill i ddarganfod ‘Taith Gelf’ yr Oriel Genedlaethol. Bydd gennym bob math o weithgareddau celf a chrefft i’w cynnig, er mwyn i’r teulu i gyd fod yn greadigol gyda’i gilydd. Mae croeso cynnes i bawb, a does dim angen unrhyw sgiliau creadigol. Byddwch yn barod i gael llawer o hwyl! Dewch draw i ymuno mewn ystod o weithgareddau galw-i-mewn a ysbrydolir gan gasgliad yr Oriel Genedlaethol, a chan dirlun a bywyd gwyllt Penyrenglyn. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu’n arbennig i apelio at deuluoedd, ac maen nhw’n cynnwys darlunio cydweithredol, creu adar, gwneud tirluniau collage a llawer mwy!
5ed Ebril 11-3pm