Dydd Sadwrn 12fed Ebrill: Diwrnod Agored ym Mhenygraig – Canolfan Soar
Ydych chi erioed wedi ffansïo rhoi cynnig ar archwilio eich creadigrwydd? Dewch draw i Ganolfan Soar ym Mhenygraig ddydd Sadwrn 12fed Ebrill i ddarganfod ‘Taith Gelf’ yr Oriel Genedlaethol. Bydd gennym lwythi o wahanol weithgareddau celf a chrefft er mwyn i’r teulu cyfan fod yn greadigol gyda’i gilydd. Mae croeso cynnes i bawb, a does dim angen unrhyw sgiliau creadigol. Byddwch yn barod i gael llawer o hwyl! Dewch draw i ymuno mewn ystod o weithgareddau galw-i-mewn a ysbrydolir gan gasgliad yr Oriel Genedlaethol. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu’n arbennig i apelio at deuluoedd, a byddant yn cynnwys darlunio cydweithredol, creu hetiau, darlunio rhydd, a mwy!
Dydd Sadwrn 12fed Ebrill