Dydd Mercher 9fed Ebrill: Grŵp ar ôl Ysgol ym Mhenygraig – Canolfan Soar
Ymunwch â ni i greu llyfrynnau zine, barddoniaeth Dada, ac ail-greu eich fersiwn eich hun o beintiadau’r Oriel Genedlaethol. Byddwn yn creu ein zines personol, gan dynnu ysbrydoliaeth o wahanol beintiadau i greu ein straeon ein hunain. Byddwn hefyd yn archwilio barddoniaeth ‘Dada’ gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau i lenwi’r zines ag amrywiaeth o ddarluniau arbrofol. Gan ddefnyddio peniau sialc ac asetad, ewch ati i greu eich fersiwn eich hun o beintiad o’r Oriel Genedlaethol, gan newid y ddelwedd wreiddiol mewn ffyrdd creadigol.
Dydd Mercher 9fed Ebrill, 4-6pm