English Rhoddi

Trosolwg

Mae oriel Celf yn yr Atig Robert Maskrey, wedi’i churadu gan yr Artist Preswyl, yn ofod arddangos hygyrch yn Y Ffatri, Porth, ac yn llwyfan i artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol rannu eu gwaith gyda’r gymuned ehangach, gydag arddangosfeydd yn cael eu cynnal bob mis. Mae Artist Preswyl Plant y Cymoedd wedi datblygu partneriaethau rhagweithiol cryf gyda mudiadau celfyddydol o fri ledled y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys Artes Mundi a Tate Exchange.

Mae ein rhaglen celfyddydau gweledol yn rhedeg ar draws Plant y Cymoedd. Mae ein dosbarthiadau celf i oedolion hŷn yn rhedeg ym Mhenyrenglyn, Pen-y-graig a’r Porth. Mae’r rhain yn grwpiau hwyliog nad ydynt yn canolbwyntio ar gelf yn unig, maent hefyd yn gweithredu fel lleoliad cymdeithasol ar gyfer oedolion hŷn a bregus a allai fod yn eithaf ynysig fel arall.

Yn ystod cyfnod cloi covid-19, benthycwyd iPads i gyfranogwyr y dosbarthiadau celf fel y gallent barhau i fynychu dosbarthiadau celf yn rhithwir. Roedd hyn yn golygu bod y grŵp yn dal i gael cysylltiad â’r byd y tu allan o leiaf unwaith yr wythnos.

Mae gan oriel Celf yn yr Atig amserlen orlawn o arddangosfeydd, yn amrywio o grwpiau Plant y Cymoedd i artistiaid lleol a chenedlaethol.

Yn ddiweddar rydym wedi llunio partneriaeth ag ACE Arts, i weithio ar y cyd ar brosiect o’r enw Explore Collective. Mae’n brosiect dwy flynedd a ariennir gan gronfa ‘Cysylltu a Ffynnu’ Cyngor Celfyddydau Cymru, gan ddod ag ystod o fudiadau creadigol ynghyd. Nodau’r prosiect yw rhannu technegau a phrosesau artistig a dysgu sgiliau creadigol newydd, ynghyd â chynnig teithiau a threfnu arddangosfeydd a fydd yn helpu cyfranogwyr i gysylltu a rhannu gwaith celf a chyflawniadau gyda chynulleidfa ehangach.

 

Gweler isod ein hamserlen o ddosbarthiadau celf i oedolion:

Soar

Dydd Mercher 10am-12pm

Penyrenglyn

Dydd Iau 10am-12pm

The Factory, Porth

Dydd Iau 1pm-3pm

Arddangosfeydd

Gweler isod am yr arddangosfeydd sydd ar ddod yn Celf yn yr Atig:

27 Tachwedd – 15 Rhagfyr – Susan Joshi (noson agored ar y 14eg o Ragfyr o 6 tan 8)

Mae Celf yn yr Atig ar agor o 10am-4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Celf yn ystod cloi

Yn ystod pandemig Covid, roedd grwpiau celf Plant y Cymoedd yn benderfynol o gadw i fyny â’u sesiynau creadigol wythnosol. Dechreuodd y cloi, caeodd adeiladau ond parhaodd dosbarthiadau celf………. Yn ystod wythnos gyntaf loclawr, anfonwyd bagiau celf yn cynnwys yr holl gyflenwadau celf hanfodol i holl gyfranogwyr y grŵp celf gan ein Artist Preswyl, fel y gallai dosbarthiadau barhau o ddiogelwch cartrefi pobl. Sefydlwyd grwpiau WhatsApp i rannu'r tasgau wythnosol a'r fideos tiwtorial ac i gadw pawb mewn cysylltiad â'i gilydd. Cafwyd cyllid ar gyfer rhai ipads er mwyn i’r grwpiau allu ‘zoomio’ yn ystod y sesiynau a chael cyfle i weld a siarad â’i gilydd. Dysgwyd sgiliau newydd wrth i bawb ddod yn gyfarwydd â llwyfannau ar-lein. Y canlyniad oedd casgliad ysblennydd o waith celf a grëwyd gan aelodau rhwng 41 a 91 oed, a gafodd ei ddangos yn y fideo hardd hwn.

cyswllt

Ydy hyn o ddiddordeb i chi?

Cysylltwch ag anneculverhousevans@valleyskids.biz i gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen celfyddydau gweledol.

Celfyddydau Gweledol

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Valleys Kids

Exit