English Rhoddi

Wedi’i lleoli yn hen Ffatri Burberry yn Ynyswen, mae’r Play Yard yn ganolfan brysur gydag ystafell synhwyraidd, ardal chwarae antur sy’n addas ar gyfer plant hyd at 11 oed ac Academi Ninja i blant 7 oed a hŷn. Mae oedolion yn gallu llogi’r cae 3G ar gyfer pêl-droed pob tywydd dan do ac mae caffi i rieni a gwarcheidwaid ymlacio ynddo tra bod eu plant yn cael hwyl! Yn ogystal, mae gan y Play Yard ddwy ystafell barti ar wahân i’w llogi.

Mae’r ardal chwarae ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 10am tan 5.30pm ac mae’r Cae 3G ar gael i’w logi o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10yb a 10yn a dydd Sadwrn 10yb i 5yp.

Yn ddiweddar, mae’r Play Yard wedi ennill gwobr genedlaethol What’s On 4 Kids am ‘Gyflawniad Rhyfeddol’ ac rydym yn hynod falch iawn ohono.

I ddarganfod mwy am y Play Yard ac i archebu eich sesiwn ewch i https://www.theplayyard.co.uk/

Y Play Yard

gwybodaeth ac archebu

Darganfyddwch fwy am yr Iard Chwarae ac archebwch eich sesiwn

Visit website

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Valleys Kids

Exit