English Rhoddi

Trosolwg

Rydym yn helpu pobl ifanc i chwarae rhan adeiladol yn eu cymuned a gwireddu eu huchelgeisiau.

Mae gwaith ieuenctid wedi bod yn ffocws allweddol erioed i Plant y Cymoedd. Mae gwaith ieuenctid yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol pobl ifanc, gan herio eu safbwyntiau a’u barn, annog myfyrio ac ymholi, gofyn iddynt gwestiynu eu hunain ac eraill a’u galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus. Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni a gweithgareddau i bobl ifanc, wedi’u gwreiddio yn egwyddorion gwaith ieuenctid. Cynhelir nifer o sesiynau clwb ieuenctid ar draws ein canolfannau bob wythnos, dan arweiniad gweithwyr ieuenctid hynod brofiadol. Maent yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymdeithasu, cael cymorth a chyngor ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw a chymryd rhan mewn prosiectau creadigol sy’n eu hannog i brofi pethau newydd a datblygu sgiliau, diddordebau a dyheadau newydd. Yn dilyn pandemig byd-eang a’i effaith ar genhedlaeth o bobl ifanc, mae’r angen am weithgareddau a chefnogaeth gadarnhaol, atyniadol yn fwy dybryd nag erioed.

"

Mae'r clwb ieuenctid yn ein rhwystro rhag drifftio ac yn tawelu ein meddyliau. Mae’n caniatáu i ni ryngweithio â’n gilydd ac yn rhoi amser i ni beidio â phoeni am y byd y tu allan ond canolbwyntio ar y grŵp a ninnau

Aelod o un o’n Clybiau Ieuenctid.

Sut Rydym yn Helpu

Rydym yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor ac ystod o gyfleoedd gwirfoddoli a chyfranogol i bobl ifanc.

Rydym yn ceisio cynnwys pobl ifanc sydd â’r heriau mwyaf yn eu bywydau i gyflawni ein hamcan o alluogi pobl ifanc i dyfu a datblygu, i ennill hunan-barch a hyder, a chyflawni eu potensial unigol.

Mae Plant y Cymoedd wedi ennill Gwobr Lefel Efydd Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid ac mae ein gwaith gyda phobl ifanc yn dilyn Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Ein hamcan yw creu cyfleoedd Addysgol, Mynegiannol, Cyfranogol, Cynhwysol a Grymusol.

Rydym yn cefnogi pobl ifanc mewn sawl ffordd, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; sesiynau clwb ieuenctid, perfformiadau ieuenctid, profiadau preswyl a chyfleoedd gwirfoddoli.

Sparc – Tîm Celfyddydau Ieuenctid

Sparc yw Prosiect Celfyddydau Ieuenctid bywiog Plant y Cymoedd sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc, rhwng 7 a 25 oed yn bennaf, gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol, a ddarperir yn lleol yn lleoliadau Plant y Cymoedd ac mewn lleoliadau eraill sy’n darparu amgylcheddau diogel a chefnogol.

Mae Sparc yn gweithredu model datblygiadol a chynyddrannol o weithio gyda phobl ifanc. Ein hymagwedd yw darparu strwythur ar gyfer y gwaith y mae pobl ifanc yn ei greu ond caniatáu lefel uchel o hyblygrwydd o fewn hyn i ymgorffori eu lleisiau a’u greddfau creadigol. Rydym yn gweithio o safbwynt y bobl ifanc, gan ddatblygu ar eu cyflymder a chynnig cefnogaeth barhaus iddynt ar bob cam o’r broses i’w galluogi i ddatblygu eu hymreolaeth, eu hymdeimlad o’r hunan a’u taith greadigol.

Pobl Ifanc

Sparc

EISIAU CYMRYD RHAN?

Dysgu mwy

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Valleys Kids

Exit