English Rhoddi

Trosolwg

Mae ein gwirfoddolwyr wedi dweud wrthym fod rhoi o’u hamser i Plant y Cymoedd wedi bod yn gadarnhaol ac yn gyfoethog.

Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli ar draws y mudiad, o fewn ein pedwar hyb teulu a chymunedol, ym Mhenyrenglyn, Penygraig, Dinas a Rhydyfelin, ac yn ein mentrau cymdeithasol gan gynnwys Y Ffatri yn y Porth, Yr Iard Chwarae yn Ynyswen a siop yr Hen Lyfrgell ym Mhen-y-graig. Mae pob lleoliad yn cynnig profiad gwirfoddoli unigryw, gan weithio o fewn gwahanol feysydd rhaglen a gydag amrywiaeth o bobl.

Mae ein darpariaeth celfyddydau ieuenctid, Sparc, hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws y sbectrwm celfyddydau ieuenctid (gwisgoedd, goleuo, ysgrifennu, bod yn rhan o dîm cynhyrchu). Mae llawer o le i ennill sgiliau a phrofiad trwy wirfoddoli.

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn y prosiectau, y gweithgareddau a’r gefnogaeth rydym yn eu cynnig i gymunedau. Maen nhw’n cryfhau ein hadnoddau, yn cyfoethogi’r hyn rydyn ni’n ei gynnig, mae ganddyn nhw brofiad o lygad y ffynnon ac mae ganddyn nhw rwydweithiau o ffrindiau a theulu sy’n ein galluogi ni i gysylltu â mwy o bobl leol mewn angen a’u cefnogi.

Mae cymhelliant ein gwirfoddolwyr yn amrywio, o bobl sydd wedi defnyddio ein gwasanaethau ac y mae gwirfoddoli o fudd iddynt ac yn cynnig cyfle ar gyfer datblygiad personol, i bobl sydd am gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymuned a bywydau pobl eraill.

Rydym am gadw a denu gwirfoddolwyr ar draws cenedlaethau, o bobl ifanc ac oedolion ifanc sydd am wneud mwy dros eu cymuned ac ennill profiadau a chymwysterau, i unigolion a phobl hŷn a allai wynebu anweithgarwch ac unigedd.

Mae’r profiad gwirfoddoli gyda Plant y Cymoedd yn ddeinamig ac unigryw ac mae gennym ystod o gyfleoedd ar gael ym mhob un o’n hybiau a’n canolfannau, gan gynnwys gweinyddiaeth, marchnata, derbynfa, cymryd archebion, gweithio yn un o’n caffis neu ein siop elusen neu wirfoddoli i helpu gydag un o’n prosiectau niferus.

Ydy hyn yn swnio fel rhywbeth a fyddai o ddiddordeb i chi?

Cysylltwch â ni trwy ffonio 01443 420870 neu e-bostiwch ni ar info@valleyskids.org

"

Rwy’n gwirfoddoli i Plant y Cymoedd oherwydd ei fod yn ffordd dda o gael profiad gwaith. Rwy'n ei fwynhau oherwydd mae'r staff a'r plant yn gwneud i mi chwerthin a gwenu, hefyd gall pawb siarad â phawb ac mae'n gymuned agored iawn lle gallwch chi siarad am unrhyw beth.

Cysylltwch â ni

Eisiau cymryd rhan?

Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i'n cefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl. Felly os gwelwch yn dda, os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni.

Dysgu mwy
Gwirfoddoli
Gwirfoddoli

Straeon Effaith

Clywch gan ein gwirfoddolwyr.

Dysgu mwy
Exit