English Rhoddi

Trosolwg

Amcan Plant y Cymoedd yw ailsefydlu ymdeimlad o berthyn, gobaith a chymhelliant ym mywydau'r rhai sy'n wynebu amgylchiadau anodd a rhwystrau i gefnogaeth.

I gyflawni hyn, byddwn yn:

Galluogi pobl sydd â bywydau hynod gymhleth i ddatblygu hyder yn eu llais a’u cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol;

Grymuso pobl i osod cyfeiriad ein gwaith, sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion, eu gobeithion a’u dyheadau, trwy gyfathrebu, ymgynghori a gwerthuso effeithiol;

Creu gwaith newydd a pherthnasol gyda phobl sy’n mwyhau eu lleisiau ac yn eu galluogi i gael eu clywed, yn eu cymunedau ac yn y byd ehangach;

Gweithio’n gynhwysol ac mewn partneriaeth â phobl sy’n dod o ddemograffeg a dangynrychiolir – unigolion sy’n byw mewn amddifadedd economaidd-gymdeithasol, sy’n LGBTQ+IA, niwroamrywiol, anabl, Du, Asiaidd neu Ethnig amrywiol – i ddatblygu gwaith creadigol sy’n eu cynrychioli ac yn dweud eu straeon;

Annog pobl i ystyried eu hunain fel dinasyddion byd-eang a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd tra hefyd yn sicrhau bod holl raglenni Plant y Cymoedd yn cael eu cyflwyno mewn modd cynaliadwy;

Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â mudiadau yn lleol, yn y DU ac yn rhyngwladol gan alluogi pobl i gael mynediad at raglenni a phrosiectau o ansawdd uchel sy’n ysbrydoli ac yn gwella bywyd, gan ehangu eu gorwelion;

Ymgysylltu ac arwain mudiadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru i ddatblygu arfer gorau mewn gwaith chwarae, gwaith ieuenctid, celfyddydau ieuenctid a chymunedol;

Meithrin talent a datblygu llwybrau gyrfa gydag ac ar gyfer artistiaid ar ddechrau eu gyrfa, gan eu cefnogi i gael mynediad at fentora gan weithwyr proffesiynol y diwydiant creadigol ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol a darparu llwyfannau ar gyfer datblygiad proffesiynol a hwyluso cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ac ymestyn rhwydweithiau cynorthwyol;

Ysbrydoli a chataleiddio creu gwaith newydd gydag oedolion hŷn a phobl â bywydau cymhleth sy’n galluogi hunanfynegiant, ymgysylltu cymdeithasol, gwell hyder a mwy o hunan-barch;

Galluogi pobl i gysylltu â’u hunain, eraill, yr amgylchedd a’r byd ehangach, gan addysgu a chyfoethogi trwy feithrin syniadau, dealltwriaeth a pherthnasoedd newydd;

Canolbwyntio a llywio ein gwaith o amgylch anghenion a chyfleoedd pobl leol, trwy gyfathrebu, ymgynghori a gwerthuso effeithiol;

Hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg drwy ddatblygu profiadau dwyieithog o ansawdd uchel ac archwilio’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng creadigol mewn amgylcheddau diogel, cynhwysol a chadarnhaol;

Tynnu ar brofiadau, newyddion a digwyddiadau lleol a byd-eang i gychwyn trafodaeth ac ystyriaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang, cyfiawnder hinsawdd, gofalu am yr amgylchedd a chynaliadwyedd;

Hyrwyddo dull datblygu cymunedol hyper-leol, sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol ac wedi’i lywio gan drawma, fel methodoleg a fydd o fudd i bobl.

Archwiliwch

Dysgwch fwy am Blant y Cymoedd

Exit