Teuluoedd
Rydym yn darparu cymorth cynhwysfawr i deuluoedd i gyflawni eu nodau trwy eu harfogi â’r offer a’r gefnogaeth angenrheidiol i ddatblygu eu sgiliau.
FacebookRydym yn darparu cymorth cynhwysfawr i deuluoedd i gyflawni eu nodau trwy eu harfogi â’r offer a’r gefnogaeth angenrheidiol i ddatblygu eu sgiliau.
FacebookMae ein gwasanaeth yn bennaf yn darparu cymorth i rieni sy’n ofalwyr a’u plant. Mae’r cymorth a ddarperir yn unigol i bob teulu a’i nod yw hybu gwydnwch. Rydym yn ymroddedig i weithio gyda phob teulu i hybu iechyd emosiynol gan alluogi rhieni a phlant i fod yn wydn yn wyneb adfyd. Cefnogir rhieni i ddysgu sgiliau a strategaethau newydd i wella eu hiechyd, eu lles a’u datblygiad. Rydyn ni’n rhoi cyfle i rieni sy’n ofalwyr reoli eu hanghenion llesiant eu hunain fel eu bod nhw’n gallu gweld pa mor wych ydyn nhw a helpu rhiant-ofalwyr i ofalu amdanyn nhw eu hunain hefyd, oherwydd maen nhw’n aml yn anghofio am eu hanghenion eu hunain pan maen nhw’n gofalu am eraill.
Mae’r ddarpariaeth hon yn amrywio o gymorth rhianta wythnosol a grwpiau menywod, i sesiynau anffurfiol lle gall unrhyw aelod o’r gymuned gael mynediad at gyngor a chymorth, i gymorth trawma arbenigol i deuluoedd ac unigolion sy’n wynebu heriau sylweddol, megis profedigaeth, trais domestig, problemau ymddygiad ac effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs). Mae ein darpariaeth ar gyfer dioddefwyr trawma yn defnyddio fframweithiau cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer cymorth i helpu buddiolwyr i nodi sut mae trawma wedi effeithio ar eu bywydau, cael yr offer i reoli’r effeithiau hyn a gwella, ac i ddatblygu hyder newydd a rhwydweithiau cyfoedion cadarnhaol.
Ymhellach, rydym yn cynnig gweithdai arbenigol wedi’u teilwra i deuluoedd, gan gynnwys sesiynau difyr ar sgiliau rhifedd i hybu hyfedredd a hyder mathemateg. Mae ein gweithdai coginio nid yn unig yn dysgu llawenydd coginio i deuluoedd ond hefyd yn canolbwyntio ar arferion bwyta’n iach a pharatoi prydau sy’n gyfeillgar i’r gyllideb. Yn ogystal, rydym yn darparu sesiynau rhyngweithiol wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer plant bach, gan eu cyflwyno i fyd coginio mewn modd diogel a phleserus.
Rydyn ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am raglenni a phrosiectau newydd sy'n cael eu lansio a newyddion cyffrous eraill.
NewyddionOs hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein rhwydwaith cymorth i deuluoedd, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni