English Rhoddi

Trosolwg

Mae Plant y Cymoedd yn gweithio gyda phobl sy’n profi tlodi acíwt, ynysu cymdeithasol, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac iechyd a lles gwael ac yn darparu ystod o raglenni a mesurau cymorth i helpu i roi diwedd ar gylchoedd o amddifadedd a darparu gobaith a chyfle i bobl mewn angen.  Ein gweledigaeth yw i unigolion wireddu potensial newid cymdeithasol trwy eu cyfranogiad, eu mynegiant a’u creadigaeth.

Gan ddefnyddio datblygiad cymunedol, chwarae, gwaith ieuenctid a methodoleg wedi’i llywio gan drawma yn ogystal â methodoleg gelfyddydol benodol ac eang, nod Plant y Cymoedd yw hwyluso a galluogi newid cadarnhaol yn y cymunedau rhithwir a’r cymunedau diriaethol lle rydym wedi’n gwreiddio ac yr ydym yn eu cefnogi.

Rydym yn ceisio gwelliannau mewn amgylchiadau cymdeithasol-economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Fel endid “o’r crud i’r bedd” rydym yn dod â phobl ynghyd i ddatrys heriau cyfunol; gan wneud y mwyaf o arbenigedd unigolion a datblygu strategaethau ac atebion gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Mae’r fethodoleg hon yn seiliedig ar werthoedd dynol cyfiawnder cymdeithasol, tegwch a chynaliadwyedd (cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gwleidyddol).

Dylid cadw mewn cof mai “proses nid digwyddiad” yw’r fethodoleg hon a bod y prosesau hyn yn ceisio mynd i’r afael â thlodi, anghydraddoldeb a chamweithrediad systemig hanesyddol gan geisio trawsnewid cynaliadwy. Yn seiliedig ar ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd; gan ddechrau gyda’r unigolyn a’r hyn sy’n berthnasol ac yn bwysig iddyn nhw a’u cymuned.

O ganlyniad i’r gwerthoedd a’r fethodoleg hon, rydym yn meithrin perthnasoedd dibynadwy, yn bresennol mewn cymunedau, yn gofalu, yn parchu, yn gwrando, yn clywed ac yn cefnogi.

Rydym yn ceisio cydweithio, ysgogi, hwyluso, galluogi, grymuso, addysgu, eirioli a dysgu. Rydym yn gwneud hyn trwy ymgysylltu, ymgynghori, cyfranogiad, cyd-gynhyrchu, cyd-greu a datblygiad parhaus.

Darganfyddwch

Dysgwch myw am Blant y Cymoedd

Amdanom ni

Gweledigaeth a Chenhadaeth

Rydym yn cefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau i gyrraedd eu llawn botensial a byw bywydau hapus a bodlon.

Amdanom ni

Ein amcanion

Ein hamcan yw ailsefydlu ymdeimlad o berthyn, gobaith a chymhelliant ym mywydau'r rhai sy'n wynebu amgylchiadau anodd a rhwystrau i gefnogaeth. Darllenwch ein set lawn o amcanion yma

Amdanom ni

Ein Methodoleg

Mae model cefnogaeth Plant y Cymoedd yn adweithiol ac yn rhagweithiol.

Amdanom ni

Y Tîm

Mae gennym dîm hynod brofiadol a medrus o staff a gwirfoddolwyr ymroddedig.

Amdanom ni

Our values

Dysgwch fwy am ein set o werthoedd craidd yr ydym yn gweithredu yn eu herbyn.

Amdanom ni

Cyhoeddiadau

Ydych chi eisiau darllen mwy am Blant y Cymoedd? Cymerwch olwg ar ein cyhoeddiadau, gan gynnwys ein hadroddiad effaith diweddaraf.

Amdanom ni

Swyddi

 diddordeb mewn gweithio gyda ni? Cymerwch olwg ar ein swyddi gwag.

Amdanom ni

Partneriaid

Mae gennym rai partneriaid anhygoel rydym yn gweithio gyda nhw i gynnig cyfleoedd a phrofiadau o safon i bobl yn ein cymunedau.

Exit