English Rhoddi

P’un a wyt ti’n dwli ar droseddau gwir, cerddoriaeth, diwylliant, chwaraeon neu wrth dy fodd yn siarad, bydd y cwrs hyfforddi dau ddiwrnod yma gyda Radio Platfform yn The Factory, Porth yn dy helpu i ddod â dy syniadau yn fyw a chreu cynnwys a fydd yn cysylltu â phobl.

Byddwn ni’n dangos i ti sut i greu gwahanol fathau o sioeau radio a phodlediadau, dod o hyd i straeon diddorol, recordio fel rhywun proffesiynol (hyd yn oed o dy ystafell wely) a bod yn hyderus wrth gyflwyno a chyfweld.

Dim profiad? Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer pawb, o ddechreuwyr pur i bobl sydd wrth eu bodd gyda radio neu bodlediadau.

Mae’r cwrs dau ddiwrnod yma yn cael ei gynnal yn The Factory, Porth fel rhan o’n partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd. Erbyn y diwedd, byddi di’n aelod o Radio Platfform ac yn cael mynediad i’n stiwdios ym Mhorth a Chaerdydd a slot i recordio a darlledu dy sioeau dy hun ar ein gorsaf lwyddiannus.

Os oes gen ti rywbeth i’w ddweud, dyma’r platfform i ti.

Pryd mae’r cwrs?

  • Dydd Mawrth 26 Mai, 11am – 4pm
  • Dydd Mercher 27 Mai, 11am – 4pm

Bydd pob cyfranogwyr yn cael cyfle i ddod yn aelodau Platfform, gyda mynediad i deithiau arbennig, digwyddiadau a defnydd o’n gofodau ac offer.

Sut ydw i’n cofrestru?

Caiff llefydd eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Cofrestra drwy ein tudalen Eventbrite nawr.

Hygyrchedd

Rydyn ni’n ymrwymo i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol, rhai sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad bywyd a all fod angen addasiadau, cymorth neu sensitifrwydd.

Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk

Barod i ymuno? Cofrestra nawr!

Exit