
AR GYFER PWY MAE’R DIWRNOD?
Os wyt ti rhwng 11 a 25 oed, dere i gwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a chymryd rhan yn ein gweithdai creadigol a rhyngweithiol. Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiannau creadigol a dyma dy gyfle i ofyn iddyn nhw beth bynnag yr hoffet ti am eu gyrfaoedd.
PRYD MAE’R DIWRNOD?
Bydd digwyddiad 2025 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Soar, Penygraig ddydd Mercher 26 Chwefror 2–9pm.
Gweithdai
Colur Effeithiau Arbennig
 diddordeb mewn creu effeithiau arbennig gyda cholur? Mae’r artist colur arbenigol Kirstie Stanway yn rhannu ei chrefft yn y sesiwn ymarferol yma am dechneg a defnyddio colur effeithiau arbennig.
Darlledu Radio
Meddwl bod gen ti lais radio? Dysga’r hanfodion gyda’n gorsaf arobryn Radio Platfform, a dysga fwy am gyflwyno dy sioeau dy hun ar y radio.
Ffotograffiaeth
Wyt ti’n egin ffotograffydd? Bydd y sesiwn flasu yma gyda’r ffotograffydd a fideograffydd Hugh Griffiths o Lily Pad Films yn archwilio fframio, goleuo a sut i ddal y saethiad gorau.
Symudiad
Erioed wedi dyfalu sut i ddod â stori neu gymeriad yn fyw drwy symudiadau? Ymuna â’r dawnsiwr, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr Krystal S. Lowe yn y gweithdy ymarferol yma.
Celfyddydau Ymdrochol
Sut allwn ni ddefnyddio profiadau digidol ac ymdrochol yn y celfyddydau? Archwilia sut mae arloesedd a chreadigrwydd yn cydweithio gyda’r arbenigwr Robin Moore.
Geiriau Llafar
Wyt ti’n gallu rhyddhau pŵer geiriau? Bydd y gweithdy yma gyda’r adroddwr straeon, awdur a chyfarwyddwr Tia-zakura Camilleri yn edrych ar sut i ddefnyddio barddoniaeth a geiriau llafar i adeiladu cymeriadau a chreu’r straeon rwyt ti eisiau eu hadrodd.
Creu Bydoedd
Wyt ti’n gallu dylunio? Mae’r artist gweledol Anna Billes yn arwain y sesiwn ymarferol yma ar ddefnyddio gwrthrychau pob dydd i greu bydoedd ar gyfer perfformio.
Canu
Eisiau dysgu sut i ddefnyddio dy lais? Ymuna ag Amy Jenkins yn y gweithdy canu yma i gael cyngor a dysgu technegau er mwyn gwneud y gorau o dy lais.
BETH YW AMSERLEN Y DIGWYDDIAD?
2–3pm: Cyrraedd, cofrestru, croeso a gweithgareddau torri’r iâ
3–4.30pm: Dewis un o 4 gweithdy cyffrous i gymryd rhan ynddo (yn cynnwys egwyl)
4.30–5.30pm: Sesiwn holi ac ateb gyda’n harbenigwyr o’r diwydiant ac arweinwyr gweithdy i ddysgu mwy am eu hymarfer a llwybr eu gyrfa (yn cynnwys egwyl)
5.30–7pm: Dewis o un o 4 gweithdy cyffrous gyda grŵp newydd sbon o weithwyr proffesiynol (yn cynnwys egwyl)
7–9pm: Bwyd a disgo distaw
Archebwch eich lle trwy’r ddolen hon nawr https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2025/life-hack
*DIM OND NIFER CYFYNGEDIG O LEFYDD SYDD AR GAEL FELLY DYLET TI OND ARCHEBU LLE OS WYT TI’N YMRWYMO 100% I DDOD I’R DIGWYDDIAD LLAWN.