English Rhoddi

Mae Plant y Cymoedd yn falch iawn o gynnal un o wyth perfformiad o gynhyrchiad cyffrous sydd ar daith o amgylch Cymru.

Mae Binderella, gan y Ragged Storytelling Collective, yn epig modern sy’n cynnwys straeon pync ac alawon gwerin iasol o Gymru, ac mae’n dod i Ganolfan Soar, Penygraig ar ddydd Iau 17 Hydref 2024.

 

Bydd y sioe, sy’n addas ar gyfer y rheini sy’n 12 oed neu hŷn, yn dechrau am 7pm ac yn para am awr a hanner (gyda egwyl o 20 munud).

Mae tocynnau yn £5 i Oedolion a £2 ar gyfer y rhai sy’n derbyn consesiynau (plant, teuluoedd incwm isel/oedolion hŷn/cyfranogwyr anabl). Archebwch eich tocynnau trwy e-bostio kiara@valleyskids.biz

Mae themâu’r sioe yn gwbl berthnasol i bobl ifanc a chymunedau ledled Cymru. Mae llawer o themâu addysgol yn ymwneud â chymdeithas, yr amgylchedd, a gwleidyddiaeth, yn enwedig ar gyfer y rhai mewn addysg uwchradd. Ceir disgrifiadau o achosion o droi allan gan awdurdodau. Sonnir am hunanladdiad ond nid oes disgrifiad manwl.

Exit