English Rhoddi

Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, y prif ystyriaethau oedd:

  •  Argymhellion adroddiad a gomisiynwyd gan Plant y Cymoedd o Ysgol Fusnes
    Manceinion, sy’n uchel ei pharch, ar gynaliadwyedd y Ffatri fel rhan o bortffolio
    eiddo Plant y Cymoedd.
  • Ein strategaeth o werthu eiddo llai hanfodol fel y gellir defnyddio’r elw i ddatblygu’r
    gwasanaethau craidd a ddarperir i’n cymunedau ac i ddiogelu swyddi lleol.
  •  Ein nod yw canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau o ganolfannau cymunedol Soar
    ym Mhenygraig a Chanolfan Penyrenglyn, ynghyd â’r Iard Chwarae a weithredir gan
    ein menter gymdeithasol Valleys Creative sydd wedi’i lleoli yn Ynyswen.
  •  Y diffyg arian sydd ar gael i ddatblygu’r Ffatri yn ganolfan y gallem ddarparu
    cefnogaeth uniongyrchol i’r gymuned ohoni.
  •  Yr arbedion cost sylweddol y gellid eu cyflawni drwy beidio â chefnogi costau cynnal
    a chadw a rhedeg yr eiddo.

Mae effaith y gwerthiant ar ein tenantiaid presennol a’n rhanddeiliaid allweddol yn bryder
mawr i ni, a byddwn yn eu hysbysu am y broses a’r cynnydd drwyddi draw.
Mae gwerthiant y Ffatri yn dilyn gwerthiant ein canolfan breswyl yng Ngorllewin Cymru ym
mis Awst 2025. Ar yr achlysur hwnnw gwerthwyd yr eiddo i bartneriaid i ni, Down to Earth.
Drwy gydweithio â nhw, roeddem yn gallu sicrhau y bydd y weledigaeth a’r amcanion
gwreiddiol yn parhau i gael eu cyflawni ar gyfer cyllidwyr, defnyddwyr gwasanaethau a’r
gymuned ehangach. Rydym yn bwriadu mabwysiadu ymagwedd debyg, os yn bosibl, i
werthu’r Ffatri.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Prif Weithredwr, Elise Stewart, drwy e-
bost ar elise@valleyskids.biz

Exit