Otter Dwrgi
Dilynwch Dwrgi’r dyfrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, gan ddod o hyd i hud a drygioni. Profiad theatr aml-synhwyraidd dwyieithog!
Tuesday, January 20th, 2026
Dilynwch Dwrgi’r dyfrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, gan ddod o hyd i hud a drygioni. Profiad theatr aml-synhwyraidd dwyieithog!
Tuesday, January 20th, 2026
Gyda sblish a sblash llon
Cei ddilyn dy galon
A deifio i ddyfroedd y stori.
 ffwr balch a bodlon
Wrth nofio lawr yr afon
Dilyna lwybr y dwrgi.
Dilyna Dwrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, a ffeindio hud a lledrith ac
ychydig bach o ddireidi ar hyd y daith.
Mae Dwrgi yn brofiad theatr dwyieithog, aml-synhwyraidd sy’n berffaith i blant o dan
5 oed, ond mae croeso i bawb! Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar storïa,
iaith a dad-ddofi ein hunain, ac mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg yn naturiol.
Mae’n berffaith i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg ac unrhyw un sy’n dysgu
Cymraeg neu Saesneg.
Gan y doniau tu ôl i sioeau fel Blaidd, Ned and the Whale a How to Defeat Monsters (And Get Away With It), ymunwch â Flossy a Boo am stori arall yn llawn hwyl, cerddoriaeth ac antur.
Ar ôl y sioe, beth am aros gyda ni am fwy o hwyl ym myd Dwrgi, wrth i ni greu
crefftau i fynd adref gyda chi ar gyfer eich anturiaethau anhygoel eich hun?
Gallwch ddisgwyl chwerthin, seinweddau meddal a chyfle i greu crefftau sy’n
addas i bob anturiaethwr bach (a’u hoedolion!)
Dydd Iau 19 Chwefror 2026 2pm yng Nghanolfan Soar
Cliciwch yma i archebu tocynnau: https://www.eventbrite.co.uk/e/otter-dwrgi-tickets-1980991867001?aff=oddtdtcreator&lang=en-us&locale=en_US&status=30&view=listing

Dwrgi is supported by Arts Council Wales’ Night Out Scheme and additionally by the Fern Folk Foundation.