English Rhoddi

AR GYFER PWY MAE’R DIWRNOD?

Os wyt ti rhwng 11 a 25 oed, dere i gwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant a chymryd rhan yn ein gweithdai creadigol a rhyngweithiol. Rydyn ni’n gweithio gydag arbenigwyr o bob rhan o’r diwydiannau creadigol a dyma dy gyfle i ofyn iddyn nhw beth bynnag yr hoffet ti am eu gyrfaoedd.

PRYD MAE’R DIWRNOD?

Bydd digwyddiad 2026 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Soar, Penygraig ddydd Mercher 18 Chwefror 2–9pm.

BETH YW AMSERLEN Y DIGWYDDIAD?

  • 2–3pm: Cyrraedd, cofrestru, croeso a gweithgareddau torri’r iâ
  • 3–4.30pm: Dewis un o 4 gweithdy cyffrous i gymryd rhan ynddo (yn cynnwys egwyl)
  • 4.30–5.30pm: Sesiwn holi ac ateb gyda’n harbenigwyr o’r diwydiant ac arweinwyr gweithdy i ddysgu mwy am eu hymarfer a llwybr eu gyrfa (yn cynnwys egwyl)
  • 5.30–7pm: Dewis o un o 4 gweithdy cyffrous gyda grŵp newydd sbon o weithwyr proffesiynol (yn cynnwys egwyl)
  • 7–9pm: Bwyd a disgo distaw

Archebwch docynnau yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/platfform-x-valleys-kids-life-hack-2026-tickets-1977381848338?aff=oddtdtcreator

Exit