Biwtis a Brogs
Tuesday, October 14th, 2025
Tuesday, October 14th, 2025
Adloniant rhagorol i blant 3-6 oed.
Mae angen i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig ar Ddydd Nadolig! Ac yn Nhre Melys, mae’n rhaid cael tri pheth perffaith er mwyn bod yn hapus – gwisg berffaith, coron berffaith a swyndlws perffaith. Dyna mae Biwti a’i Thad yn meddwl, beth bynnag. Pan mae Biwti’n cyfarfod Brogs, broga bach direidus, mae hi’n dechrau dysgu bod yna lawer o wahanol fathau o berffaith ac yn darganfod beth yw cyfrinach hapusrwydd go iawn.
Yn llawn dop â chaneuon, chwerthin a hwyl; Mae’r hyfryd Biwti a Brogs / The Frog Prince gan Gwawr Loader yn ail-ddychmygu stori glasurol y Brodyr Grimm. Ymunwch â ni ar gyfer y sioe hudol a swynol hon, a berfformir mewn lleoliad anffurfiol. Y cyflwyniad delfrydol i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed.
Perfformir sioeau ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Theatr Cymru.
Mae pob Sioe yng Nghanolfan Soar Pen-y-graig
Dydd Llun 17eg Tachwedd 6pm (Sioe Gymunedol)
£5 Oedolion | £2 Gostyngiadau (Plant/Di-gyflog/Pensiynwyr/Anabl)
E-bostiwch: Gemma@valleyskids.biz i archebu tocynnau!
Dydd Mawrth 18fed Tachwedd 11am- Sioe Ysgol Saesneg Wedi Gwerthu Allan!
Dydd Mawrth 18fed Tachwedd 1:30pm- Sioe Ysgol Gymraeg- Tocynnau ar gael o hyd- E-bostiwch: Gemma@valleyskids.biz am ragor o wybodaeth