Mae No Man’s Land yn ddrama seicolegol wefreiddiol newydd sy’n rhoi sylw i glwyfau cudd ysbryd sy’n ddeilchion. Mae’r frwydr i oroesi yn digwydd yn y meddwl.
Beth yw brawdoliaeth? Brawd mawr i’ch amddiffyn. Beth os nad yw’n gwneud hynny?
Mae’r ddrama wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda, rydyn ni’n dilyn hanes Lewis wrth iddo fynd ar daith drwy ddau fyd er mwyn darganfod yr hyn fydd yn glawr ar bennod yn ei fywyd. Byd o realaeth a thir neb, dystopia wedi’i sbarduno gan drawma sydd ond yn bodoli ym meddwl Lewis.
Beth sy’n digwydd pan mae’r byd yn dweud wrthych chi i fod yn ddewr ond mae pob rhan ohonoch chi yn ddeilchion?
“It never goes away. My whole body constantly on red alert.”
A fydd Lewis yn wynebu ei drawma neu’n parhau i fyw yn ei gysgod?
Cyd-gynhyrchiad rhwng Kyle Stead, Theatr y Sherman a Theatrau Rhondda Cynon Taf gyda chymorth gan Platfform.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Am docynnau, ewch i’r dolenni hyn:
Sherman Theatre & Parc and Dare
Photo Credit: Kirsten McTernan