Mae’r Wythnos Gwaith Ieuenctid, sy’n dechrau heddiw (dydd Llun 24 Mehefin), yn gyfle i arddangos a dathlu effaith gwaith ieuenctid ar draws Cymru. Mae’r thema eleni, “Pam Gwaith Ieuenctid?”, yn canolbwyntio ar werth a phwysigrwydd gwaith ieuenctid.
Mae gwaith ieuenctid yn cynnig amrywiaeth gyfoethog o gyfleoedd addysgol a chynhwysol i bobl ifanc 11 i 25 oed, ac yn eu grymuso. Mae’r profiadau hyn, sy’n cael eu cyflwyno gan y sector gwirfoddol a gynhelir, yn annog pobl ifanc i ddefnyddio eu llais a chyfrannu at benderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Mae Plant y Cymoedd yn elusen yn Rhondda Cynon Taf sy’n cefnogi mwy na 120 o bobl ifanc bob wythnos drwy ystod o raglenni. Maen nhw’n darparu cyfleoedd i gymdeithasu, cael gafael ar gymorth a’r cyfle i wirfoddoli mewn amrywiaeth o brosiectau.
Ymwelodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Cymru, Lynne Neagle, â Valleys Kids i weld drostynt eu hunain sut y gall cyfleoedd i bobl ifanc, sydd wedi’u gwreiddio o fewn fframwaith i gefnogi teuluoedd cyfan, helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’w lleisiau, gwella iechyd corfforol a iechyd meddwl a lles a gwella canlyniadau.
Dywedodd Lynne Neagle, ar X (a elwid gynt yn Twitter):
“Mae eich ymroddiad i adeiladu perthnasoedd, cysylltiad, a pherthyn yn wirioneddol ysbrydoledig!”
Edrychwch ar y trydariad yma.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Wythnos Gwaith Ieuenctid Hapus. Mae’n bleser bod yma ar ddechrau ein dathliad o wythnos gwaith ieuenctid i ddeall popeth mae gwaith ieuenctid yn ei roi i ni a’n cymunedau. Ledled Cymru, mae prosiectau gwaith ieuenctid yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. Mae gwaith ieuenctid yn cael effaith mor gadarnhaol ar fywydau ein pobl ifanc ac yn helpu i sicrhau dyfodol mwy disglair. Ond yn hollbwysig, i gydnabod y dalent sy’n bodoli ym mhob un o’n cymunedau, i weld pobl ifanc, yn wirioneddol, fel ein dyfodol, a chyfraniad gwaith ieuenctid, ar gyfer gwneud yn siŵr bod y llwyfan yno, a’r llwyddiant i’n gwlad.”
Edrychwch ar y fideo yma.
Drwy gefnogi pobl ifanc a’u hannog i fod yn weithgar yn y gymuned, nod y grwpiau ieuenctid yw magu hyder a meithrin uchelgais ymhlith eu haelodau, gan ganiatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle:
“Mae’r Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfle gwych inni ddathlu a chydnabod pwysigrwydd gwaith ieuenctid ac mae fy ymweliad â Plant y Cymoedd wedi dangos imi pa mor werthfawr yw’r gwaith.
“Rwy’n falch o’r cyfleoedd mae Plant y Cymoedd wedi’u rhoi i’r bobl ifanc hyn. Drwy eu gwaith caled, maen nhw wedi grymuso pobl ifanc i gydnabod eu gallu eu hunain ac wedi gwneud iddyn nhw gredu ynddyn nhw eu hunain a’r hyn maen nhw’n gallu ei gyflawni.
“Mae lleisiau pobl ifanc wrth wraidd gwaith ieuenctid, ac rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i weithwyr ieuenctid ym mhob cwr o Gymru am eu hymroddiad i gefnogi ein pobl ifanc.”
Dywedodd Elise Stewart, Prif Swyddog Gweithredol Plant y Cymoedd:
“Mae Plant y Cymoedd yn gweithio gyda phobl ifanc ar draws ein cymunedau i’w helpu i wireddu eu potensial. Drwy gael cyfle i gymryd rhan yn ein rhaglenni gwaith ieuenctid, mae pobl ifanc yn gallu pontio’n well i fywyd fel oedolion gyda hyder a chred yn eu galluoedd eu hunain.
“Pobl Ifanc yw ein dyfodol ac mae gwaith ieuenctid yn cynnig y cyfleoedd cadarnhaol a thrawsnewidiol sydd eu hangen ar ein cymunedau. Mae gwaith ieuenctid yn wasanaeth ataliol allweddol y mae gan bob person ifanc hawl iddo … ac mae’n gweithio!”