English Rhoddi

Fel rhan o drawsnewidiad diweddar, mae Plant y Cymoedd wedi ail-frandio, gan lansio logo a chynllun lliw newydd i ychwanegu bywiogrwydd i’r brand tra’n cydnabod eu hanes 40+ mlynedd yn gweithio yng Nghymoedd Rhondda Cynon Taf a thu hwnt. 

 

Plant y Cymoedd ydyn ni i gyd! 

 

Mae Plant y Cymoedd yn fudiad o’r crud i’r bedd, sy’n gweithio gyda rhieni a phlant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd, unigolion a phobl hŷn i gynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor a chyfleoedd ar gyfer ymgysylltu, hunanddatblygiad a gwireddu potensial. 

 

Mae cenedlaethau o drigolion y Rhondda wedi elwa o’r gwasanaethau a ddarperir gan Plant y Cymoedd ac mae’r elusen am sicrhau ei fod yno am genedlaethau i ddod.  Nod yr ailfrandio yw gwneud eu cenhadaeth yn gliriach i gynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd, ac ymgysylltu â’u cynulleidfaoedd mewn modd mwy effeithiol. 

 

Gan ddewis palet lliwiau gwahanol, mwy eang, nod Plant y Cymoedd yw rhoi eu hunaniaeth unigol eu hunain i’w canolfannau a’u meysydd rhaglen o dan ymbarél Plant y Cymoedd. 

 

Exit